Hanes Eglwys Sant Mihangel
Rhoddwyd enw i’r plwyf o Eglwys Sant Mihangel – Eglwys Sant Mihangel ar y bryn. Mae’n debyg mai safle celtaidd ydyw, a gafodd ei ail-adeiladu yn y flwyddyn 717AC. Roedd y Sant Celtaidd Llawddog yn weithgar yn yr ardal yma yn y 6ed ganrif ac mae’n bosib mae ef oedd yn gyfrifol am sefydlu llan ar ddarn o dir yn gorywchwylio’r afon Teifi. Mae’r ymrwymiad i Sant Mihangel yn dynodu safle o ddefnydd crefyddol cyn-Christnogaeth, felly cafodd yr eglwys ei adeiladu mewn safle a oedd eisioes yn arbennig."
Steve Dubé, This Small Corner: A History of Pencader and District, Caerfyrddin, 2000. (Cyfieithiad)
Cefnogir gwreiddiau cyn-Gristnogol safle Eglwys Sant Mihangel gan yr ymroddiad i Sant Mihangel, a'r garreg Ulcagnus Rufeinig a charreg Geltaidd a geir ym mynwent yr eglwys ac yn agos ati. (Darllenwch fwy am y Cerrig Cysegredig yma.) Yn ogystal â dylanwad posib Llawddog yn yr ardal ac ar yr Eglwys, roedd Gwrtheyrn (Vortigern), brenin gormesol o'r 5ed ganrif, hefyd yn ddylanwadol yn yr ardal, sy'n amlwg o'r enw 'Craig Gwrtheyrn' ar y bryngaer Oes Haearn ger Llanfihangel-ar-arth.
Mae Eglwys Mihangel Sant yn adeilad rhestredig Gradd II*, oherwydd ei darddiad canoloesol a'i ychwanegiadau ôl-ganoloesol. Mae yna hefyd goeden Ywen hynafol ar safle'r Eglwys, sydd ei hun yn heneb naturiol.
Mae gan Eglwys Sant Mihangel a Llanfihangel-ar-arth hanes modern hynod ddiddorol hefyd, o Derfysgoedd Rebecca ym 1843 i achos Sarah Jacob, "The Welsh Fasting Girl", (1857-1869).
Mae mwy o wybodaeth ar y wefan Casgliad y Werin.
Esiampl o sillafu hen Llanfihangel ar Arth, fel Llanvihangell Yorwoth, o ewyllys can Evan Griffith Jenkin, yn 1669. Many yna sawl esiampl o sillafu gwahanol yn ewyllysau ar wefan LlGC: http://hdl.handle.net/10107/681543