Darganfuwyd 2 carreg cysegredig yn agos i’r Eglwys, sydd nawr yn cael eu cadw tu fewn i’r Eglwys. Mae'r cerrig yn dangos pa mor hen yw safle'r Eglwys, yn dyddio i'r cyfnod cyn-Gristnogol.
Y Carreg Celtaidd
Un ydyw’r carreg Celtaidd, oherwydd bod sawl croes wedi eu arysgrifennu arno. Credir iddo gael ei ddefnyddio fel carreg allor Geltaidd neu gaead arch, a allai fod wedi'i daflu allan gan y Normaniaid.
Y Garreg Rufeinig
Y llall yw'r garreg Rufeinig, carreg fedd i filwr Rhufeinig sy'n dyddio i tua 500AD. Mae wedi’i arysgrifio: ‘HIC IACIT ULCAGNUS FI[LI]US SENOMAGLI,’ sy’n golygu ‘Yma gorwedd Ulcagnus, mab Senomaglus.’ Fe'i gelwir hefyd yn garreg Ulcagnus.
Gwasanaethau
Sul Cyntaf y mis: 11:00 Cymun Dwyieithog Ail Sul y Mis: 11:00 Gwasanaeth Anffurfiol Dwyieithog Trydydd Sul y mis: 11:00 Cymun Saesneg Pedwerydd Sul y mis: 14:00 Cymun Dwyieithog
Pan fydd pumed Sul yn y mis, gweler yr hysbysebion neu cysylltu â'r Ficer ar 01559 384858.