Gwaith Adeiladu Newydd ac Atgyweirio
Rydym wedi cael atgyweiriadau mawr i'w wneud i wal orllewinol yr eglwys. Mae wedi cael ei ail-rendro a'i beintio. Mae to yr eglwys wedi'u hatgyweirio ac mae draen Ffrengig wedi'i osod o amgylch yr adeilad. Mae hyn wedi gwella'r broblem llaith (damprwydd).
Pan cafodd y render ei dynnu i ffwrdd o'r waliau, cafodd hen agoriad drws ei ddarganfod yn y wal Gorllewinol. Mae yn anfodus wedi cael ei orchuddio eto gyda'r gwaith rendro newydd, ond os edrychwch yn fanwl tu allan i'r wall fe fyddwch dal i fod yn medru gweld gweddillion yr hen agoriad i'r drws.
Ond rydym bellach wedi darganfod nad yw'r gloch yn ddiogel i'w chanu felly (rwy'n anelu at gael ei ail-hongian.)
Roeddem yn mynd i symud y ddwy henebion, sydd wedi'u lleoli yn y festri ar hyd y wal ddwyreiniol, ond oherwydd faint o amser yr oedd ei angen i gynllunio, fe benderfynon ni wneud hyn nes ymlaen.
Rydym hefyd wedi rhoi cegin a thoiled tu fewn y festri. Gan nad oes neuadd i'r eglwys, teimlwyd bod angen hyn.
Treftadaeth
Teimlwyd pan fyddai ymwelwyr yn dod i'r eglwys, y byddai angen cymorth arnynt i ddysgu mwy am eu treftadaeth ysbrydol a hanesyddol. Gyda hyn mewn golwg, ysgrifennwyd dwy daflen hanesyddol. Mae un ar gyfer oedolion a'r llall ar gyfer plant. Ysgrifennwyd llyfryn hanesyddol hirach hefyd y gall pobl ei brynu am swm bach. Mae'r taflenni byr hefyd ar gael ar y wefan i bobl eu lawrlwytho.