Sarah Jacob, yr ymprydferch
Aeth yn sâl ym mis Chwefror, 1867, o salwch dirgel a barodd iddi gael trawiadau a dod yn gaeth i'w gwely, gyda hanner ei chorff yn ôl pob golwg wedi ei barlysu. Ar ôl y salwch hwn, roedd hi'n bwyta ac yn yfed llawer llai, nes nad oedd hi'n bwyta nac yn yfed erbyn mis Hydref y flwyddyn honno.
Nid oedd ei rhieni eisiau ei gorfodi i fwyta oherwydd ei salwch - cafodd ei thrin gan y meddyg lleol Henry Harries Davies, a oedd yn methu ei helpu. Roedd yn ymddangos bod ei theulu a'i meddyg yn amharod i'w danfon i ysbyty, lle gallai fod wedi cael triniaeth.
Ymwelodd y Parchedig Evan Jones â hi a gofynnodd hi i ymuno â'r Eglwys - roedd gweddill ei theulu yn Capelwyr, er nad oedd yn ymddangos bod ots ganddyn nhw am hyn. Roedd hi'n aml yn cael ei gweld wedi'i hamgylchynu gyda lyfrau, gan gynnwys y Beibl. Ar ôl amheuaeth gychwynnol dros ‘ymprydio’ Sarah, daeth Evan Jones i gredu ei bod hi yn wyrth ac ysgrifennodd lythyr am ei chyflwr i The Welshman, yn gwahodd dynion meddygol i ddod i brofi nad oedd yn wyrth.
Cylchredwyd y newyddion am y ‘Welsh Fasting Girl,’ a daeth ymwelwyr ymhell ac agos i’w gweld ar Reilffordd Pencader, a agorwyd yn 1864. Daeth yn atyniad i dwristiaid ac yn rhan o’r ddadl rhwng gwyddoniaeth a'r Eglwys. Roedd y proffesiwn meddygol yn dal i fod yn newydd ar y pwynt hwn a nid oedd pobl ofergoelus fel teulu Sarah Jacob yn ymddiried ynddo nac yn ei ddeall felly fe wnaethant geisio profi bod ymprydio Sarah yn ffug.
Cylchredwyd y newyddion am y ‘Welsh Fasting Girl,’ a daeth ymwelwyr ymhell ac agos i’w gweld ar Reilffordd Pencader, a agorwyd yn 1864. Daeth yn atyniad i dwristiaid ac yn rhan o’r ddadl rhwng gwyddoniaeth a'r Eglwys. Roedd y proffesiwn meddygol yn dal i fod yn newydd ar y pwynt hwn a nid oedd pobl ofergoelus fel teulu Sarah Jacob yn ymddiried ynddo nac yn ei ddeall felly fe wnaethant geisio profi bod ymprydio Sarah yn ffug.
‘The Last Hours of the Welsh Fasting Girl,’ Illustrated Police News, December 1869.
Roedd Evan Jacob, am ei falchder a'i enw da, eisiau profi bod Sarah yn ymprydio, fel y gwnaeth eraill yn y gymuned leol, a'r gymuned Gymreig ehangach. Cynlluniwyd gwyliadwriaeth 24 awr ar Sarah, ond methodd y cyntaf. Ond ym mis Rhagfyr 1869, anfonwyd 4 nyrs o Ysbyty Guy’s i’w gwylio, yn ogystal â saith meddyg lleol. Bu farw Sarah Jacob ar yr 17eg o Ragfyr, 1869 o newynu. Roedd hi'n 12 oed a honnodd ei bod yn ymprydio am 113 wythnos.
Cynhaliwyd cwest yn Nhafarn yr Eagle ar yr 21ain o Ragfyr, a brofodd iddi gael ei llwgu am o leiaf wythnos, ac yn ddiweddarach roedd treial yng Nghaerfyrddin. Beirniadwyd y meddygon am eu rhan yn ei marwolaeth, ond dedfrydwyd Hannah ac Evan Jacob am ddynladdiad - Evan i 12 mis o lafur caled yng Ngharchar Abertawe, a Hannah, a oedd yn feichiog, i 6 mis.
Nid oes esboniad llawn am achos Sarah Jacob, ond rywsut roedd Sarah Jacob yn cael gafael am fwyd - o bosib yn cuddio potel yn ei chesail, neu yn cael bwyd gan ei chwaer - er nid ydyw hi’n glir os oedd ei rhieni yn ei helpu neu’n ei hannog. O edrych yn ôl, mae'n ymddangos bod y meddygon a fethodd â'i thrin yr un mor gyfrifol, neu hyd yn oed yn fwy ar fai. Roedd y Parchedig Evan Jones, a wahoddodd y meddygon i’w hastudio, hefyd yn beio’r rheilffyrdd am ddod â chymaint o sylw i gartref Sarah Jacob, er y gellir beio gwneud gwyrth ohoni hefyd.
Mae achos ei ympryd yn dal i gael ei drafod. Mae ‘anorexia mirabilis’ yn ‘ympryd sanctaidd,’ hunan-newynu a welir mewn hanes. Mae ‘Anorexia nervosa,’ anhwylder bwyta, yn esboniad posib. Roedd ‘ymprydio merched’ yn ffenomen eu hunain yn y cyfnod Fictoraidd, yn aml yn gysylltiedig â ‘hysteria’ neu yn aml y profwyd eu bod yn ffug. Ymprydferched Cymru eraill oedd Gaenor Hughes o Bodelith, a fu farw ym 1780, ac Ann Morgan o Borth, a'i torrodd yn gyflym ar ôl ychydig wythnosau yn ysbyty yn yr 1870au. Mae salwch meddwl, o bosibl o ganlyniad i drawma anhysbys, neu geisio sylw hefyd wedi cael ei awgrymu fel esboniadau. Esboniad mwyaf diweddar yw haint firaol, a achoswyd gan ei salwch blaenorol neu oherwydd agosrwydd y Jacobs at dda, a fyddai wedi ei gwneud yn anodd ac yn boenus iddi fwyta llawer ar y tro. Mae’n bosibl y gallai Sarah Jacob fod wedi cael triniaeth yn yr ysbyty, a goroesi, pe na bai ei hympryd wedi ei wneud yn wyrth, yn astudiaeth feddygol ac yn atyniad i dwristiaid.
Claddwyd y teulu Jacob ym mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-ar-arth, ac hefyd y Parchedig Evan Jones, a’r meddyg Henry Harries Davies.