Ffenestri Gwydr Lliw
Hanes y gwydr lliw yn Eglwys Sant Mihangel
Cliciwch ar y lluniau i'w ehangu.
Y Croeshoeliad
Mae'r ffenestr gwydr lliw hynaf yn yr Eglwys yn dangos y Forwyn Fair a Sant Ioan ar bob ochr i Grist ar y Croes, gyda'u symbolau oddi danynt. Rhoddwyd yn 1913, er cof am y Parchedig John Harries Davies o Ciliau Aeron, gan ei nai, John Bowen Davies, ac mae'n sefyll dros yr allor ar yr wal ddwyreiniol.
Y Dyrchafael
Ar wal ddeheuol yr Eglwys, dangoswyd Dyrchafael Crist ar ffenestr gwydr lliw gan Gabriel Loire, a llofnodwyd a'i dyddio i 1995. Hon oedd y ffenestr liw gyntaf yng Nghymru gan Loire, arlunydd gwydr lliw Ffrengig sydd gyda gwydr lliw yn dros 29 o wledydd, a oedd yn 90 oed pan creuwyd y ffenestr liw hon. Rhoddwyd gan y Parchedig Evan Tudor Thomas, er cof am ei rieni, Thomas a Margaret Thomas, a'i fodryb Elizabeth Thomas, ac mae wedi ei leoli ger piw y teulu Thomas.
Crist y Bugail Da
Ar y wal ogleddol mae'r ffenestr wydr lliw ddiweddaraf, yn darlunio Crist fel y Bugail Da wedi'i amgylchynu gan ei braidd, a r'oddwyd er cof am Mrs Margaret Ann Griffiths a'i mab Canon Evan David Griffiths yn 2003. Fe'i dyluniwyd gan Colwyn Morris a'i chreu gan Stiwdios Glantawe.
Am fwy o wybodaeth, gweler http://stainedglass.llgc.org.uk/site/449.